Tudalen:Caneuon Mynyddog.djvu/13

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y LILI A'R RHOSYN

GWELAIS ddau flodeuyn hawddgar
Yn cyd -dyfu mewn gardd fach,
Un yn Lili dyner, ddengar,
A'r llall yn Rhosyn gwridog iach;
Sefyll wnai y Rhosyn ëon
Heb ddim byd iddal ei ben,
Tra y llechai ' r Lili dirion
O dan nawdd rhyw ddeiliog bren.
 
Storm a ddaeth i chwythu arnynt,
Chwyddo wnai mewn nerth a rhoch,
Ac o flaen ysgythrog gorwynt
Syrthio wnaeth y Rhosyn coch;
Ymddiriedodd ynddo'i hunar,
Yn ei falchder 'roedd ei nerth,
Ond mewn storm fe brofai 'r truan
Dlysni boch yn beth di werth.

Ond yn nghanol y rhyferthwy
Sylwaisar y Lili wen,
Gyda'i phwys ar le safadwy,
Sef ar foncyff cryf y pren;
Er i'r gwynt ymosod arni
Gyda nerth ei ddyrnod ddwys,
Gwenu 'n dawel'r oedd у Lili
Fel pe buasai diin o bwys.