Dyma wers i'r ieuangc, bywiog,
Sydd a'i hyder yn ei nerth,
Tlysni grudd, a boch rosynog,
Brofant iddo yn ddi werth;
Stormydd cystudd ddeuant heibio,
Gwywa'r gwrid fel Rhosyn gwan,
Camp yw cael yr adeg hono
Rywbeth ddeil y pen i'r làn .
Awel oeraidd dyffryn marw
Chwytha arnom yn y man,
Pobpeth sy'n y byd pryd hwnw
At ein cynal dry 'n rhy wan;
Byw yn ymyl Pren y Bywyd
Ddylem oll tra îs y nen,
Pwyso arno yn mhob adfyd
Hel y gwnaeth y Lili wen.
YMSON HEN FERCH.
TON:— "Bugeilio'r Gwenith Gwyn."
MAE'R adar bach ar frigau 'r coed
Mor ysgafn droed a dedwydd,
Pob un a wêl ei gydmar mwyn
Ar frig rhyw dwyn neu gilydd;
Ehedant bob yn ddau a dau,
Gan gyd fwynhau eu pleser;
Pan gano un mewn hwyl diwall,
Fe gân y llall bob amser.
Ar lethr y mynydd mae dwy nant
A redant tua 'r gwaelod,
Ac ar y gwastad yn y rhyd
Mae'r ddwy yn cydgyfarfod