Minnau ar ei air a blygais, I ymaflyd yn y groes; Plygodd yntau yn fy ymyl, A'i ddeheulaw dani roes. Dim ond hanner croes a welwn, A'm holl flodau wrtho 'nglŷn; Pwysai'r llall, a'r hanner trymaf, Ar ysgwyddau'r Gŵr ei hun.