Tudalen:Caniadau'r Allt.djvu/102

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

MAB Y MÔR.

O fy mechgyn, ewch â mi
Unwaith eto i ben y tywyn;
Heibio i lwyni glas yr hesg,
A thros dwyni'r tywod melyn.

Ewch â mi lle bum yn llanc,
Gyda 'm tad yn morio'r cychod,
Ac yn codi'r adar brith
Cyn y dydd oddiar eu nythod.

Sefwch dro wrth odre'r allt,
A thrachefn ar lain y rhwydi-
Lle y maent fel gwawn y môr
Hyd y gro ac ar y clwydi.

Yna, rhowch fi yn fy mad,
A chyfodwch arno'r hwyliau,
Gan fy ngollwng dros y bae,
Pan fo'r haul yn mynd dan gaerau.

Morio yw gwynfyd mab y môr,
A phan ddêl ei dro i farw,
Ni fyn fedd ar bwys y llan,
Ond mewn glasach dyfnach erw.