Tudalen:Caniadau'r Allt.djvu/105

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y TYLWYTH TEG.

Clywch, mae cloch y ddawns yn galw,
Un, dau, tri, ac un, dau, tri:
Ddrysor, agor ddrws yr ogof,
Hanner nos yw'n bore ni:
Cwsg y defaid yn y meillion,
Cwsg yr adar yn y coed;
Cyrchwn faes yr eithin melyn,
Bob yn dri, ar wisgi droed.

Dacw liw y lloer yn codi,
Dacw gwrr ei goleu gwyn:
Dring yn araf, O mor araf,
Trwy y cwmwl, tros y bryn;
Clymwn ddwylo, clymwn ddwylo,
Ar y cylchog, wlithog lawr:
Mwyn yw codi efo'r lleuad,
Yna dawnsio hyd y wawr.

Trewch ac eiliwch alaw lawen
Ar bereiddlais bibau'r brwyn;
Ninnau chwarddwn, ac a lamwn
Wrth y seiniau aml eu swyn:
Aed eich mwynion fysedd hoywon
Ganwaith tros bob alaw bêr;
Ni wyr llonder ddim am flinder
Mwy na'r tonnau mân a'r sêr.

Ust! mae rhyw aderyn cynnar
Wedi deffro yn y coed;
Dyna lais y forwyn odro,
Dyna eto sŵn ei throed;
Ysgafn redwn tua'r ogof,
Trwy yr eithin, tros y ddôl
Fel na welo'r cyntaf ddelo
Ond ein cylchau ar ein hôl.