Tudalen:Caniadau'r Allt.djvu/112

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ERDDYGAN HUN Y BARDD.

Udai'r gwynt yng nghoed ei ardd,
Uchel leisiai dros y dref;
Ond ni allai'r uchel wynt
Anesmwytho'i drwmgwsg ef.

Hunai'r bardd mewn melys hedd,
Wedi hirddydd diwyd oes;
Wedi canu ei olaf gerdd,
Wedi dwyn ei olaf groes.

Hunai'n bêr, heb wybod dim
Am wybodau mân y byd;
A heb wybod am yr ofn
A ofnasai'i enaid cyd.

Cofiem am ei eiriau ffraeth,
Chwarddem, a phob grudd yn wleb:
Hunai y parota'i air,
Heb na gair na gwên i neb!

Ni symudai'r dirion law
Rannai'i dda mor rhwydd, mor hael;
A digymorth oedd y gŵr
A fu gymorth hawdd ei gael.

Cyn y wawr, y ddistaw wawr,
Ust yr hydref lanwai'r ardd;
Ond yr ydoedd dwysach ust
Yn ystafell hun y bardd.