Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadau'r Allt.djvu/113

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Heddyw, nid yw yn ei dŷ,
Na hyd lwybrau tlws y fro;
Ond ei eiriau sydd yn fyw,
A'i weithredoedd sydd mewn co'.

Huned yn Nenio[1] draw,
Gyda'r ddau fu'n disgwyl cŷd:
Un ym meddrod ydynt mwy,
Fel mewn bywyd. Gwyn eu byd.

  1. ↑ Cwyn coll am Cynhaearn. Bu farw Hydref 22ain, 1916, Claddwydd ef ym meddrod ei dad a'i fam ym mynwent Denio, Pwllheli. Cyrhaeddasai oedran teg. Gw: Y Bywgraffiadur Cymreig—Thomas Jones ('Cynhaiarn '; 1839 - 1916), cyfreithiwr a bardd