Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadau'r Allt.djvu/117

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PETHAU TLWS.

Dacw alarch ar y llyn,
Yn ei gwch o sidan gwyn;

Dyma afal melyn, crwn,—
Anrheg mam i mi yw hwn.

Dacw rosyn ar y pren,
Capan coch sydd ar ei ben.

Dyma faban yn ei grud,—
Perl ei fami—gwyn ei fyd.