Tudalen:Caniadau'r Allt.djvu/118

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y BRIALLU.

Mi welais heddyw'r bore
Yr aur melyna' 'rioed;
'Roedd rhai o dan y perthi,
Ac eraill yn y coed;
Pwy meddwch chwi a'u collodd,
Mewn llwyn, a phant, a ffos?
Mae nain yn dweud mai'r Tylwyth Teg,
Wrth ddawnsio yn y nos.