Tudalen:Caniadau'r Allt.djvu/23

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

AELWYD Y GESAIL.

Ryw noson fel heno, a'r lluwch ar y mynydd,
A'r cesair yn curo ffenestri y fro,
Mi droais i 'mochel i gegin y Gesail,
Roedd tân ar yr aelwyd, a phawb o dan do:
Mor wyn oedd y sialc dan y dodrefn o'm deutu,
Mor glyd oedd ystlysau'r hen simdde fawr;
A'r dysglau o biwtar ar silffoedd y dresal
Fel llygaid o dân yn ysbio i lawr.

Caf droi pryd y mynnwyf i aelwyd y Gesail,
Os oes yno glicied, nid oes yno glo;
A mwyned fy nghroesaw nes peri im feddwl
Mai haelaf y galon po lymaf y fro.
Eisteddai fy ewyrth fel derwydd cil pentan,
Fy modryb gyferbyn â'i gwieill yn gwau;
A chrochan y llymru, treftadaeth y teulu,
Ynghrôg yn y simdde, dan ofal y ddau:
Roedd Rheinallt y gwas yn saernio pren rhaffau,
A'r ci dan y naddion yn cysgu gerllaw;
A Megan y forwyn ar fainc fel corn lleuad,
Ei serch ar y mynydd, a'i gwaith yn ei llaw.

Caf Serch a bodlonrwydd ar aelwyd y Gesail,
A phawb ar ddechreunos a gorchwyl i'w wneud;