Tudalen:Caniadau'r Allt.djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cofiaf dy weld yn cynnull yr yd,
Yna yn rhwymo 'r ysgubau;
Tynnach na hynny yng nghwlwm serch,
Y rhwymit fy nghalon innau.

Gwerfyl, fy mun, Gwerfyl, fy mun,
Heulwen y cwm a'r bythynnod,
Deuaf ar ganiad y gog bob haf
 llygaid y dydd ar dy feddrod.