Tudalen:Caniadau'r Allt.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

CÂN Y GŴR LLWM.

Gwerinwr bach syml wyf fi,
Os mynnech chwi wybod hynny,
Heb gennyf ar f'elw na thŷ na thwlc,
Na llain wedi'i ddwyn na'i brynu :
Ni wn fod dim rhin yn fy ngwaed,
Ond iechyd fy nhad a'm teidiau
A'r cwbl a fynnaf yw hawl i fyw,
Heb geiniog dros ben fy rheidiau.

Os ydyw ysgweiar y plas
Bob dydd yn ei barc yn marchogaeth,
A'i gŵn a'i wŷr lifrai yn gweu o'i gylch,
A phawb yn rhoi iddo wrogaeth:
Ni ffeiriwn i f'aelwyd â fo,
A ffeiriwn i byth mo'm cydwybod;
Ni wneuthum i gam â'r diniwed erioed,
Mae Nanw a Duw yn gwybod.

Gwn cystal â neb beth yw cur,
A pheth yw nosweithiau blinion;
Ond nid rhaid im ostwng fy mhen am ddim,
Wrth gerdded fy erwau prinion:
Mae llun ar fy nhir, os yw'n llwyd,
A thraul ar fy rhaw a'm pladur;
A gwrymiau caledwaith sydd ar fy llaw,
Wrth gadw'r gŵr mawr a'r penadur.

'Rwy wrthi heb ŵyl yn y byd,
O blygain hyd haul diwedydd;
A'm ffawd yw noswylio ar ôl y dref,
A chodi o flaen yr uchedydd:
Ac felly o ffair i ffair,
Nes delo fy oes i fyny;
Caf ddigon o orffwys yn erw'r llan,
'Deill neb fy nacáu o hynny,