Tudalen:Caniadau'r Allt.djvu/73

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

NADOLIG, 1916.

Gwn am fro lle nid oes hedd,
Na cherdd o'r tannau tynion;
Ond lle torrir ar y wledd
Gan ru taranau dynion :
Cofia dithau 'r llanciau trist
Sydd am eu tir yn wylo,
Ac yn cadw Gŵyl y Crist
A'r gynnau yn eu dwylo.