Tudalen:Caniadau'r Allt.djvu/94

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

RHISIART LLWYD.[1]

Llanystumdwy—Criccieth.

Bennaeth syml y pentref gwledig,
Gymro, pur o foes a thras,
Gwyddai'r hen frodorion dinod
Am ei bwyll, ei serch, a'i ras;
Fel'bu'n nawdd i'w chwaer ddinodded
A'i thri tlws mewn cyfyng awr—
Cofia'r byd ei aelwyd fechan,
Cofia Duw ei galon fawr.

Heuai rawn y nef yn fore,
Ac fe'i heuodd hyd ei fedd;
Hyder ffydd oedd yn ei enaid,
Urddas proffwyd yn ei wedd:
Ieuanc ydoedd yn ei henaint,
Ieuanc gan ysbrydol aidd;
Carai Fugail mawr y defaid,
Ac ni flinai borthi Ei braidd.

Fe roed iddo amlder dyddiau,
A phob dydd yn ddydd o waith;
Casglodd lawer ysgub ddisglair
Cyn prynhawn ei einioes faith:
Ond ni welodd fwy na'r blaenffrwyth
O'r hyn heuodd ef cyhyd;
Aeth y grawn yn gyfoeth pobloedd,
A blaendarddodd ledled byd.

  1. Richard Lloyd (1834—1917) ewythr a thad maeth David Lloyd George