Tudalen:Caniadau'r Allt.djvu/95

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"EU HIAITH A GADWANT."

Gwnawn, ni a'i cadwn. Os aed â'u gwlad,
Nid eir â'n heniaith oddiar ein had;
A mefl ar dafod yr unben rhaith
A'i gwnelo 'n gamwedd in garu ein hiaith.

O fannau Epynt i fannau Llŷn,
Mynnwn gael siarad ein hiaith ein hun.

Pwy ŵyr sawl canwaith bu'r bannau hyn,
Bob crib, yn loyw o wayw-ffyn?
A pha sawl cannwr, yn enw Duw,
Fu farw er cadw yr iaith yn fyw?

O fannau Epynt i fannau Llŷn,
Mynnwn gael siarad ein hiaith ein hun.

Cymerth i'n mamau hirnosau blin
Gynt, i ddiferu ei mêl rhwng ein min;
A threch yw'r atgof am famau bro
Na thraha uchelwr, pwy bynnag fo.

O fannau Epynt i fannau Llŷn,
Mynnwn gael siarad ein hiaith ein hun.

Na ryngwn fodd yr un arglwydd llys,
A modrwy'i falchter ar fôn ei fys:
Hen dras Llywelyn, a hil Glyn Dŵr,
A droes y canrifau ein gwaed yn ddŵr?

O fannau Epynt i fannau Llŷn,
Mynnwn gael siarad ein hiaith ein hun.