Gwnawn lw i'w chadw o grud i grud, Mewn llys ac Eisteddfod, am oes y byd; A mefl ar dafod yr unben rhaith Waharddo i Gymro fawrhau ei iaith. O fannau Epynt i fannau Llŷn, Mynnwn gael siarad ein hiaith ein hun.