Tudalen:Caniadau Buddug.pdf/106

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y GOLEUDY

MAE'R nos yn ddofn a'r gwynt yn gryf,
A rhuo'n groch mae'r môr yn hyf,
A'r tonnau'n hedeg megis plyf,
I'r glannau gan ewynu.
Mae traethell fawr beryglus draw,
A chraig ysgythrog sydd gerllaw,
Ac arnynt y teyrnasa braw,
A'i wyneb fel y fagddu.
Ond edrych ar y noswaith ddu,
Y storm a'i dwfn angeuol ru,
A gwyneb siriol, disglair cu,
A llawen mae'r Goleudy.

Mae llongau ar y tonnau draw,
Yn crynu fel mewn ingol fraw,
A'r nos a'r storm sy law yn llaw,
Yn parotoi i'w llyncu.
Mae'r porthladd oll yn llaw y nos,
Fel deilen grin yng ngwaelod ffos,
Ac Angau'n nghlust y storm ddwed "Dos,
Cawn heno gyd-orchfygu."
Ond rhwygo y tywyllwch cudd,
A chreu tanbeidiol siriol ddydd,
Yng ngheudod dwfn y noson brudd,
A'i wên y mae'r Goleudy.

Pob traethell ddofn, pob craig sydd draw,
A'r holl beryglon ar bob llaw,
Fel bryniau'r byd i'r golwg ddaw
O fynwes ddofn y fagddu.
A ffordd i'r porthladd geir yn glir,
Heb ofni'r gwynt, y môr, na'r tir;
I'r lan, i'r lan, i'r lan cyn hir,
Daw'r morwyr oll dan ganu.