Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/12

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

AT Y DARLLENYDD

YMae'r rhan fwyaf o'r Caniadau hyn wedi ymddangos o'r blaen mewn gwahanol gyhoeddiadau. Ymddanghosodd llawer o Gathlau Heine yng Nghymru Fydd am 1890, ac amryw o honynt yng Nghymru ryw flwyddyn neu ddwy yn ddiweddarach. Cyhoeddwyd yr awdl "Cymru Fu : Cymru Fydd" yng Nghymru am Awst 1892. Argraffwyd rhai o'r dyrïau a'r mân gyfieithiadau o bryd i bryd ym Magazine Coleg y Gogledd. Diau i rai o'r darnau ymddangos hefyd mewn papurau wythnosol a mannau eraill; ond, hyd yn oed pe gallwn eu holrhain, nid yw o bwys yn y byd. Yn yr holl ddarnau hyn, ni phetrusais yn unman i newid gair neu ymadrodd, lle gwelwn angen, i ddiwygio'r iaith neu gywiro bai mewn mydr neu odl.

Ymysg y caniadau a ymddengys am y waith gyntaf yn y llyfr hwn y mae Awdl Famon a Phenillion Omar Khayyâm. Ysgrifennwyd Awdl Famon yn ddarnau digyswllt tua'r flwyddyn 1893 neu 1894; yr oeddwn yn darofun iddi fod yn hwy o lawer, ond wedi ei rhoi heibio am amser mi dybiais ei bod yn ddigon maith o watwargerdd o'r fath, ac mi lenwais y bylchau, gan ei gadael yn awdl o dair rhan fel y'i gwelir. Yn