Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/13

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Nhachwedd 1898 (wedi bod yn dysgu ychydig Berseg rai blynyddoedd ynghynt) y meddyliais am geisio Cymreigio penillion Omar; cyfieithais ddeg neu bymtheg a thrigain o honynt y gaeaf hwnnw, ac ychwanegais ambell bennill pan gaffwn hamdden o dro i dro.

Dymunaf yma ddiolch i Mr. William Watson am ei ganiatad caredig imi i gyhoeddi'r aralleiriad o'i gân 'Duw cadw'n gwlad'; ac i Dr. Douglas Hyde am ei ganiatad caredig yntau i gyhoeddi'r cyfieithiadau o bedair o'r cathlau a gasglwyd ganddo oddi ar lafar y werin yn Iwerddon, ac a gyhoeddwyd gyda chyfieithiad Saesneg yn ei Love Songs of Connacht.

JOHN MORRIS JONES.

Llanfair Pwll Gwyngyll,

Gorffennaf 1907.