Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mae'n wir nad yw ei gwerin
Yn meddu o honi gwys,
Na'r Cymro ond pererin
Ar ddaear Cymru lwys;
Y trawsion a'i meddiannodd,
A mynych y griddfannodd
Y genedl a'i trigiannodd,
Mewn du gaethiwed dwys.

Er hyn i'm gwlad y canaf,
Oherwydd Cymru fydd
Ddedwyddaf gwlad a glanaf,
A dyfod y mae'r dydd
Pan na bydd trais i'w nychu,
Nac anwr i'w bradychu,
Na chweryl i'w gwanychu,
A phan fydd Cymru'n rhydd!

TORIAD Y DYDD

'Rwy'n hoffi cofio'r amser,
Ers llawer blwyddyn faith,
Pan oedd pob Cymro'n Gymro gwir
Yn caru'i wlad a'i iaith ;
Llefarai dewr arglwyddi
Ein cadarn heniaith ni,