Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/20

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Parablai arglwyddesau heirdd
Ei pheraidd eiriau hi;
Pan glywid yn y neuadd
Y mwynion dannau mân,
Mor fwyn yr eiliai gyda hwy
Ragorol iaith y gan.
Ond wedi hyn trychineb
I'r hen Gymraeg a fu,
Ymachlud wnaeth ei disglair haul,
Daeth arni hirnos ddu.


O'r plasau a'r neuaddau
Fe'i gyrrwyd dan ei chlais;
Arglwyddi, arglwyddesau beilch
Sisialodd iaith y Sais;
A phrydferth iaith y delyn
Fu'n crwydro'n wael ei ffawd,
Ond clywid eto'i seiniau hoff
Ym mwth y Cymro tlawd;
Meithrinodd gwerin Cymru
Eu heniaith yn ei chlwy',
Cadd drigo ar eu tafod fyth,
Ac yn eu calon hwy.
Gogoniant mwy gaiff eto,
A pharch yng Nghymru fydd;
Mi welaf ddisglair oleu 'mlaen,
A dyma doriad dydd!