Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Y BACHGEN MAIN

Lleddf y canai'r llanc ei delyn
Fel ochenaid brudd y gwynt;
Cofio'r oedd am bob rhyw fawredd
A fu 'n harddu Cymru gynt;
Meddwn wrtho, "Harddach eto
"Nag erioed fydd Cymru gain;
"Can obeithiol geinciau heini,
"Gwn y medri, fachgen main."

Canai'r bachgen main ei delyn,
Canai fyth yn lleddf ei sain;
Cofio'r oedd am bob anghydfod
Sydd yn rhannu Cymru gain;
Meddwn wrtho, "Dyma'r brwydro
"Sydd i buro gwlad y gân;
"Deffro beraidd leisiau'r delyn,
"'Tyn y mêl o'r tannau man.'

"Cymru fu! ni raid ochneidio
"Am a fu i Gymru gain;
"Cymru sydd! ni raid it ganu
"Am y sydd yn lleddf dy sain;
"Cymru fydd ! hi fydd yn lanach,
"Ardderchocach fyrdd na'r rhain;
“Boed dy gerdd yn llawen heno,
"Can am honno, fachgen main!"