Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/38

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Wyneb Cybi droes yn felyn,
Wyneb Seiriol ddaliai'n wyn;
Dyna draetha'r cyferwyddyd
Am y ddeusant hyn.

Mi ni wn ai gwir yr hanes,
Ond mae'i faich yn wir o hyd;
Dengys anghyfartal dynged
Dynion yn y byd.

Caiff y naill, aed ffordd yr elo,
Mewn cysgodion rodio'n rhydd;
Rhaid i'r llall o hyd wynebu
Pwys a gwres y dydd.


Y MORGRUG

Aeth Culwch, cefnder Arthur,
At Ysbaddaden Gawr,
I erchi 'i unig eneth,
Sef Olwen deg ei gwawr.

Erioed ni welwyd geneth
Mor lân â'r eneth hon—
Ei gwallt fel blodau'r banadl,
Ei gwddf fel ewyn tonn.