Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/59

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

I mi i ddisgrifio modd
Y medrus lyfn ymadrodd ;
Imi ganu am gynneddf
Y llais a'r parabliad lleddf,
A'r dull digrifbert o wau
Y dedwydd ddywediadau.
Ond pa un all adlunio,
Pa ddyn ei wymp ddoniau o?
Ni cheisiaf, ni fedraf fodd
I'w mydru; gwell im adrodd
Enghraifft o eiriau anghryg
Dafydd ar ol Gruffudd Gryg:
"Tros fy ngran, ledchwelan lif,
"Try deigr am ŵr tra digrif;
"Lluniwr pob deall uniawn,
"A llyfr cyfraith y iaith iawn."
Ond dan fy mron i'm llonni,
Y mae gobaith, a'i hiaith hi,
Yn ateb y cawn eto,
Ar ol ei daith hirfaith o,
Ganfod y teg awenfardd
Yn Rhydychen hên a hardd.

Dyfnach erchach ein harcholl
A'n cŵyn am gymdeithion coll.
I. O. Thomas aeth ymaith;
Do, do, gwelodd ben ei daith;
Ei drigfan sy'n y drygfyd,
Efô 'n sancteiddio'r hen fyd.