Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/60

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ie, W. D. hefyd aeth;
Ond dilys erys hiraeth,
A'i Hiraethgan wiwlan o
Yn dôn er cof am dano.

Ymaith aeth Owen Bencerdd,
"Primas ac urddas y gerdd;
"Edn glwys ei baradwyslef,
"Aderyn oedd o dir Nef."
Collodd ein cerdd bencerddor
A'i lais mwyn fel su y môr.
Pwy wêl gantor hefelydd
I hen ganiad "Toriad Dydd"?
Pwy gân cyn fwyned wedyn
Unwaith gerdd "y Gwenith Gwyn"?.

Bellach, f'awen a ballawdd;
Yn hwy ni chanaf yn hawdd.
Bydded pob rhwydd-deb iddynt
I'w llwyddo oll, a hawdd hynt.