Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadau Owen Lewis Glan Cymerig.djvu/52

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

BLODEUGLWM
Ar fedd R. Ellis, mab Mr a Mrs E. Ellis, Castle Street, Bala.

YM mynwes oer y ddaear ddu
Gorwedda Robert Evan gu,
Mewn tawel fyd o hedd;
Er hardded yw y blodau cûn
Sydd ar ei fedd,—'does yna'r un
O'r rhain mor hardd, mor deg eu llun,
A'r hwn sydd yn ei fedd.

Mor brudd gofynai ef "Paham
Yr wylwch chwi?—'rwy'n marw mam,
Na wylwch troswyf fi";
Mae adgof am y geiriau prudd,
Rwy'n marw mam" yn fyw bob dydd
Ar gof y teulu heddyw sydd
Yn wylo'u dagrau'n lli.

'Does dim ond teimlad tad a mam
A dd'wed yn llawn am fab dinam,
Beth yw eu colled hwy;
Er iddynt edrych draw ym mhell
I arall fyd,—i wlad sydd well,
Mae'u serch o hyd mewn unig gell
Yn mynwent hen y plwy.

I'r teulu, cysegredig fan
Yw'r fangre hoff gerllaw y Llan,
Lle huna'r anwyl un:
Yn bedair blwydd a'r ddeg trwy'r glyn
Aeth Robert bach yn berlyn gwyn
I goron hardd Calfaria fryn.
I goron Crist ei hun.

Yn gynar, gynar, gwywo wnaeth,
A chroesodd y tragwyddol draeth
I fyw mewn arall fyd.
Gadawodd gyfnod amser prudd
I dderbyn gwawl y dwyfol ddydd,
Am byth mor felus iddo fydd
Cael gwen y nef o hyd.