Mae adgof am ei gweddi daer,
Yn fyw yn ein calonau;
Ac oh! mor anwyl tros ei chwaer
Erfyniai ar ei gliniau
Ar Iesu Grist ei chadw hi.
Fe ddarfu yntau wrando,
Ond cymrodd oddiwrthym ni
Yr hon oedd yn gweddio.
Ehedeg wnaeth o swn y byd
Yn ol i'r nefol drigfa,
A gwyliodd engyl Duw ei chryd
Tra bu yn aros yma.
O ryfedd drefn! mor fyr fu'r daith,
A dyra oedd ei gweddi,
Fel hyn gofynodd lawer gwaith
A wnaf fi farw, Mami?
A marw wnaeth, ond marw i fyw
A ddarfu 'r hoff EVANGE;
Ac heddyw gydag engyl Duw
Mae hi yn melus foli.
Ond ar ei bedd y blodau sydd
Yn gwenu arnom weithian,
Mil harddach yw y blod'yn cudd
Sy'n gorwedd yn y graian.
Fe hidlwyd dagrau ar ei bedd
Gan rai oedd yn ei charu,
Tra gwenai hithau 'n hardd ei gwedd
Yn nghôl yr addfwyn Iesu,
Mewn gwlad nad oes un poen na chri,
Mewn gwlad yn llawn goleuni,
Ha cofiwch am ei geiriau hi,
'Na wylwch drostwyf, Mami.
Tudalen:Caniadau Owen Lewis Glan Cymerig.djvu/87
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon