Fe ffromodd 'Herod frenin' pan y clywodd hyny,
Nis gall'sai feddwl am yr hwn oedd i deyrnasu.
Ymaflodd yn ei gledd, a galwodd ei fyddinoedd
Ynghyd, ac erlid wnaeth anfarwol Fab y Nefoedd,
Eiddigedd lanwai'n awr ei fynwes a dialedd,
Ac o'r trychineb a ddanghosodd ddidrugaredd!
Llofruddio wnaeth ei filwyr creulon blant diniwaid
I foddio ei gynddaredd hyrddiwyd y trueiniaid
I dragwyddoldeb ; ond baban y tangnefedd
Oedd ddiogel, yn yr Aipht o gyrhaedd ei ddialedd.
Ac yno mewn tawelwch rhwng y bryniau
Bu'r Iesu 'n blentyn gyda'r plant yn chwaren;
Ac nid oedd Nazareth yn edrych arno
Ond fel ar blentyn bychan arall yno;
Fel hyn y tyfodd Ceidwad byd i fyny
Mewn dinod le yn nghwmni ei holl deulu.
Rhyw newydd anian iddo ef oedd gwisgo
Ei hun mewn corph o gnawd mewn marwol amdo,
Ond gydag anfeidroldeb Duw edrychai
Yn ol i'r cyngor boreu, yno gwelai
Ei hun yn cydgynllunio ffordd i faddeu
Cyn bod y byd, na dyn, na dim pechodau;
Ac ynddo ef fe unwyd dyn a Duwdod,–
Ac ynddo ef caed Aberth llawn am bechod.
Mor ryfedd ydoedd gwel'd y bachgen Iesu
Yn holi y doctoriaid, ac yn dysgu
Cyfrinion bethau mawrion iddynt yno,
A hwythau'n fud, nis gallent ddeall m'ono;
Ychydig wyddent hwy mai eu Creawdwr
A safai ger eu bron mewn agwedd holwr.
Cynyddu mewn doethineb wnaeth y bachgen,
Gan ddwys fyfyrio 'n aml am gwymp Eden;
Rhag—welai ef y diwrnod mawr yn dyfod,
Pan â phechodau 'r byd 'roedd i gyfarfod;
Ac i'r dyfodol prudd edrychai'n wrol,
Gan syllu 'n ol i'r arfaeth fawr dragwyddol.
Tudalen:Caniadau Owen Lewis Glan Cymerig.djvu/98
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon