22.
SALMAU.
M. C. C.
1 TRIGOLION byd a dront yn rhwydd
At yr Arglwydd, pan gofiant;
A holl dylwythau 'r ddaear gron,
Hwy ger ei fron addolant.
2 Yr Arglwydd biau 'r deyrnas oll,
Y byd a'i holl amgylchoedd;
Efe mewn nerth yn unig sydd
Ben Llywydd y cenedloedd.
3 Y rhai 'n a'u had o bryd i bryd,
A ddont i'w gyd-wasanaeth;
A hwy i'r Arglwydd, drwy'r holl dir,
A rifir yn genedlaeth.
23.
M. C. C.
1 YR Arglwydd yw fy Mugail clau,
Ni âd byth eisiau arnaf;
Mi gaf orwedd mewn porfa fras,
Ar làn dwfr gloywlas araf.
2 Fe goledd f' enaid, ac a'm dwg
'R hyd llwybrau diddrwg, cyfiawn;
Er mwyn ei enw mawr dilys,
Fe 'm tywys ar yr uniawn.
3 Pe rhodiwn, nid ofnwn am hyn,
Yn nyffryn cysgod angau;
Wyt gyda mi â'th nerth a'th ffon;
On'd tirion ydyw 'r arfau?
4 O'th nawdd y daw y doniau hyn
I'm canlyn byth yn hylwydd;
A minnau a breswyliaf byth,
A'm nyth yn nby yr Arglwydd.
Google
Tudalen:Caniadydd 1841.djvu/24
Gwedd
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto