23. M. N. 11.
1 FY Mugail yw'r Arglwydd, ni bydd arnaf byth
Nac eisiau, na phrinder; caf lawnder dilyth;
Gwna efimi orwedd mewn gwelltog borf'ydd,
Ger llaw dyfroedd tawel y'm tywys bob dydd.
2 Fe ddychwel fy enaid, fe'm harwain ar hyd
Hardd lwybrau cyfiawnder, tra bwy'f yn y byd;
Er mwyn ei wir enw, Ior enwog, y gwna;
Can's mae fy Nuw 'n ffyddlon, yn dirion, a da.
3 Dim niweid nid ofnwn, pe rhodiwn ar hyd
Glyn dwfn cysgod angau, ni laesai fy mryd.
Can's gyda mi 'r ydwyt a'th wialen a'th ffon,
Y rhai a'm cysurant, a'm cadwant yn llon.
4 Daioni, trugaredd, dilynant fi'n glau
Holl ddyddiau fy mywyd gan hyfryd barâu;
Yn nheml Iehovah preswyliaf fi byth,
Mewn hedd a chadernid, heb newid fy nyth.
24. M. C. C.
1 YR Arglwydd biau 'r ddaear lawr,
A'i llawnder mawr sy'n eiddo;
Yr Arglwydd biau yr holl fyd,
A'r bobl i gyd sydd ynddo.
2 Eich pen dyrchefwch, gedyrn byrth,
Agorwch ddorau bythol;
Can's Brenin mawr ddaw i'ch mewn chwi,
Brenin o fri gogonol.
Google
Tudalen:Caniadydd 1841.djvu/25
Gwedd
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto