SALMAU.
I ti y telir trwy'r holl gred,
Pob gwir adduned calon.
2 Pawb sydd yn pwyso atat ti,
A wrendy weddi dostur;
Ac atat ti y daw pob cnawd,
Er mwyn gollyngdawd llafur.
3 D' etholedig dedwydd yw,
Caiff nesnes fyw i'th babell;
Trig i'th gynteddau, ac i'th lys,
A'th sanctaidd weddus ganghell.
66.
1
YN
M. C. C.
N Nuw ymlawenêwch i gyd,
Yr holl-fyd, a dadgenwch
Ei fawr ogoniant hyd y nef,
A'i foliant ef a draethwch.
2 O bobloedd, molwch Dduw ar gais,
A moeswch lais ei foliant:
Hwn sy 'n dal bywyd yn y gwaed,
A ddeil ein traed na lithrant.
68.
1
M. C. C.
BENDIGAID fyth fo 'r Arglwydd mau,
Am ddoniau ei ddaioni;
A'i iachawdwriaeth i mi 'n llwyth
O bêr-ffrwyth ei haelioni.
2 Dy Dduw a drefnodd iti nerth,
A'i law sydd brydferth geidwad;
Duw, cadarnâa eto 'n faith,
Ynom ni waith dy gariad.
3 Chwi, holl deyrnasoedd daear lawr,
I Dduw mawr cenwch foliant;
Tudalen:Caniadydd 1841.djvu/42
Gwedd
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto