Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadydd 1841.djvu/53

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

A'i iachawdwriaeth ef trwy ffydd,
O ddydd i ddydd cyhoeddwch.
2 Can's mawr iawn yw gogoniant nef,
Ac o'i flaen ef mae harddwch.
Ac yn ei gyssegr y mae nerth,
A phrydferth yw'r hyfrydwch.
100.
1 I'R
M. H.
'R Arglwydd cenwch lafar glod,
A gwnewch ufudddod llawen fryd,
Dowch o flaen Duw â pheraidd dôn,
Trigolion y ddaear i gyd.
2 Gwybyddwch mai 'r Arglwydd sy Dduw,
A'n gwnaeth ni 'n fyw fel hyn i fod;
Nid ni 'n hunain; ei bobl ym ni,
A defaid rhi' ei borfa a'i nod.
3 O ewch i'w byrth â diolch brau,
Yn ei gynteddau molwch ef;
Bendithiwch enw Duw hynod,
Rhowch iddo glod drwy lafar lef.
4 Can's da yw 'r Arglwydd, Awdur hedd,
Da ei drugaredd a di lyth;
A'i wirionedd i ni a roes
O oes i oes a bery byth.
100.
M. H.
10 FLAEN gorseddfainc uchel Ion,
Dewch bobloedd oll, dan lawenâu;
Mawr yw ei enw uwch pob son,
Efe sy 'n lladd ac yn bywâu.
E2
41

Google