107.
1
SALMAU.
M. C. C.
MOLWCH yr Arglwydd, can's da yw,
Moliennwch Dduw ein Llywydd;
Oblegid ei drugaredd fry
A bery yn dragywydd.
2 Y gwaredigion canent fawl
I Dduw gerdd nodawl gysson;
Y sawl achubwyd, caned hyn,
O law y gelyn creulon.
3 Addefant hwythau ger ei fron,
Ei fwynion drugareddau;
Ac i blant dynion fel y gwnaeth
Yn helaeth ryfeddodau.
4 Aberthant hefyd aberth mawl,
I'w ogoneddawl fawredd ;
1
A thraethant am ei waith a'i wyrth,
O fewn ei byrth â moledd.
RHAN II.
Y RHAI a ânt mewn llongau i'r dòn,
A'u taith uwch mawrion ddyfroedd,
A welant ryfeddodau'r Ion,
A hyn mewn eigion moroedd.
2 A'i air cyffro dymmestloedd gwynt,
Y rhai a godynt dònau
Hyd awyr fry, hyd eigion llawr,
Ac ofn bob awr rhag angau.
3 Gan ysgwyd a phendroi fel hyn,
Dull meddwyn, synai arnynt;
Ar Dduw mewn ing y rhoisant lef,
Daeth ef á chymmorth iddynt.
Google
Tudalen:Caniadydd 1841.djvu/56
Gwedd
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
