125.
M. C. C.
1 SAWL a'm ddiriedant yn Nuw Ion,
Byddant fel Sion fynydd;
Yr hwn ni syfl; a'i sylwedd fry
A bery yn dragywydd.
2 Fel y saif sail Caersalem fry,
A'i chylchu mae mynyddoedd ;
Felly yr Arglwydd yn gaer sydd
Dragywydd cylch ei bobloedd.
126.
]
M. C. C.
ER wylo
R wylo wrth lafurio 'n awr,
Rhyw lwyddiant mawr a welir;
Y rhai sy'n hau y gwerthfawr had,
Yn mhob rhyw wlad fendithir.
2 Er llawer cawod oer a chwith,
Bydd bendith ar lafurio ;
A thâl i lafur dydd a nos,
Er tywydd croes ac wylo.
3 Pan ddelo'r holl ysgubau 'nghyd,
Bydd hyfryd a'r galonau
Y rhai a welwyd lawer awr
Yn wylo i lawr y dagrau.
127.
M. C. C.
1 Y TY nid adeilado Ner,
A'n ofer gwaith y seiri;
A'r ddinas, hon nis ceidw ef,
Ni thycia gwylio ynddi.
2 Os bore godi, os hûn hwyr,
Os byw trwy lwyr ofidio;
Google
Tudalen:Caniadydd 1841.djvu/62
Gwedd
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto