Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadydd 1841.djvu/77

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Bydd melus yn yr afon
Gael craig a'm deil i'r làn,
Pan fyddo pob ystormydd
Yn curo f' enaid gwan.
11.
M. 7. 6.
CRAIG YR OESOEDD.
1 AM graig yr iachawdwriaeth
Fy enaid egwan, cân;
Y sylfaen fawr dragwyddol,
A'r hyfryd gongl-faen;
Fy noddfa rhag ystormydd,
Fy nghysgod rhag y gwres;
Mae'n ganmil mwy rhagorol
Na chedyrn furiau pres.
12.
1
2
3
M. 5. 8.
YR ABERTH.
ANFEIDROL yw'r fraint
Ddarparwyd i'r saint,
Trwy'r Duwdod a'r dyndod yn un;
Brawd ffyddlawn a gaed,
O fynwes y Tad,
O'i wirfodd yn Geidwad i ddyn.
Gwir aberth a rodd
Yr Iesu o'i fodd;
Fe lyncodd y cysgod i gyd:
Diflanodd y nos
Yn ngwyneb y groes;
Haul cyfiawn oleuodd y byd.
Tra'r nefoedd yn bod,
Fe genir ei glod
Gan filoedd faddeuwyd eu bai;
65
G 2

Google