Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
Oen Duw yw efe,
Fu farw 'n ein lle,
Haleluiah byth mwy i barâu!
13.
1 ANGAU
M. 7.4.
YR IAWN.
NGAU ac eiriolaeth Crist
Yw'ngorfoledd;
Hyn a ddwg i'n henaid trist
Lawn dangnefedd;
Collai 'r ddeddf ei damniol rym
Ar Galfaria,
Dofwyd llid cyfiawnder llym,
Haleluiah.
2 Iesu yw difyrwch f' oes,
Yn fy mlinfyd;
Ac ymffrostiaf yn ei groes
Tros fy mywyd;
Dan ei gysgod, nos a dydd,
Gwnaf fy nghrigfa;
Fy nhwr cadarn byth a fydd;
Haleluiah.
3 Mae fy Mhrynwr heddyw 'n fyw,
Ac yn eiriol;
Sail eiriolaeth drosof yw
Iawn digonol;
Ei waith ynof yn y man
A berffeithia;
A gorfoledd fydd fy rhan;
Haleluiah.
Google