Mae'r oruchafiaeth gwedi dod
Trwy Grist, ein Priod gwiw:
Er cyfeiliorni 'n hir,
Cawn ddod i dir ein gwlad;
Henffych i'r dydd a'r bore daeth
Yr iachawdwriaeth rad!
5 Wel, dyma 'r newydd da
A lawenycha 'r trist,
Mae'r ddraig a Satan er ein mwyn,
Mewn cadwyn gan ein Crist;
Pan 'sigodd ef ei siol,
Ennillodd nefol wlad;
Henffych i'r dydd a'r bore daeth
Yr iachawdwriaeth rad!
34.
M. C.
GOGONIANT YR IAWN.
1 BODDLONODD pawb trwy nef a llawr
Groeshoelio 'r Oen ar bren;
Mae'r 'wyllys genyf innau 'n awr
'Roi 'r goron ar ei ben.
2 Mae'r newydd am ei werthfawr waed
Yn llifo ar Galfari,
Yn un o'r breintiau mwyaf gaed
Ar hyd ein daear ni.
3 Mae'r canu heddyw am y gwaed
Yn seinio 'n uchel fry;
A nofio yn ei gariad rhad
Y mae aneirif lu.
35.
1
M. 6. 4.
RHYFEDD RAS.
BOED clod i'n Prynwr rhad,
Ein Ceidwad cu;
Google
Tudalen:Caniadydd 1841.djvu/90
Gwedd
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto