Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/104

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gweinidogion y flwyddyn hono a geir ar derfyn y bennod hon. Yn y Gynhadledd hon aeth dau yn Uwchrifiaid, sef y Parchn. John Williams, 1af, a Griffith Hughes, ond cadwyd i fyny rif y Gweinidogion fel y flwyddyn cynt trwy i ddau gael cu galw allan i'r gwaith o'r newydd, sef, yn

1. HUMPHREY JONES, o Ynys Capel, Tre'rddol, ger Aberystwyth, Sir Aberteifi. Yr oedd ei feddwl wedi ei ddiwyllio a'i eangu trwy efrydiaeth ddyfal, a'i ysbryd yn fwyn a gwir Gristionogol. Bu yn foddion i droi llawer i gyfiawnder, ac i adeiladu yr Eglwysi. Fel bugail yr oedd yn ddiwyd, serchus, a ffyddlon. Ei eiriau diweddaf oeddynt, Crist yw fy Iachawdwriaeth;

Dedwydd wrth farw os cai'r fraint
Gael am ei enw sôn;
A gwaeddu yn ngwyneb angau dû,
O wele, wele'r Oen."

Bu farw yn dra di-symwth yn Beaumaris, Mai 24, 1861, yn y 55 flwydd o'i oedran, a'r 33 o'i Weinidogaeth.

2. THOMAS JONES, o Mydreilyn, Sir Aberteifi. Yr oedd ef yn naturiol yn ddyn o ddoniau a thalentau disglaer. Cafodd fanteision addysg gwell na llawer. Darllenai lawer, ac yr oedd yn efrydydd diwyd ac ymroddol. Cyhoeddoedd rai llyfrau. Efe oedd awdwr "Elfenau Duwinyddiaeth." Ac mewn cysylltiad â'r Parch. Samuel Davies, raf, cyhoeddodd "Y Drysorgell Efengylaidd," sef Corph o Dduwinyddiaeth ar Athrawiaethau Crefydd. Hwn ydoedd y gwaith pwysicaf a gyhoeddwyd gan y Wesleyaid Cymreig ar Dduwinyddiaeth yn ystod y ganrif. Mae yn gyfrol drwchus ac yn waith o deilyngdod uchel iawn. Ar gyfrif ei ragoriaethau fel Duwinydd, derbyniodd y gradd o Doctor of Divinity, ac yr oedd yn mhob ystyr yn deilwng o hono. Bu yn Gadeirydd y Dalaeth Ddeheuol am ugain mlynedd, sef o 1846 hyd 1866. Yr oedd ef yn mhob ystvr yn ddyn anghyffredin. Bu farw yn Tyddewi, Gorphenaf, 1891, yn ei 88 mlwydd o'i oedran, a'r 63 o'i Weinidogaeth.

Gosodwn yma Sefydliadau y Gweinidogion am y flwyddyn 1828-29 fel eu trefnwyd yn y Gynadledd y gwnaed y Cylchdeithiau Cymreig yn ddwy Dalaeth. Dylem nodi fod ychwanegiad o un yn y Gylchdeithiau y flwyddyn hon, sef Abertawe.

"YR AIL DALAETH DDEHEUOL."

MERTHYR TYDFIL—Edward Anwyl, Owen Jones.

CAERDYDD—Robert Humphreys, John Lloyd.

LLANDEILO AC ABERHONDDU—William Hughes, Evan Edwards.

ABERTAWE—William Davies, Iaf.

CAERFYRDDIN—Hugh Hughes, Thomas T. Jones, John Williams, 1af, Uwchrif.

ABERTEIFI—John Davies, 2il; Humphrey Jones, 1af.

ABERYSTWYTH A MACHYNLLETH—David Evans, John Jones, 2il.

LLANIDLOES—David Jones, 2il: John Williams, 2il, Golygydd.

JOHN DAVIES, 2il Cadeirydd y Dalaeth.