Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/103

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

2. JOHN LLOYD, o Lanidloes, Sir Drefaldwyn. Yr oedd ef yn fab dyddanwch, ac yn Weinidog da i Iesu Grist. Cyflawnodd ei swydd yn gymeradwy, a gwelodd lwyddiant ar ei lafur. Bu farw yn Liverpool, Medi 2, 1869, yn 67 mlwydd oed, ar ol bod yn y Weinidogaeth am 43 o flynyddoedd.

Etholwyd y Parch. John Davies, o Helygain, yn Gadeirydd y Dalaeth y flwyddyn hon, yn olynydd i'r Parch. William Davies, 1af.

Ni ddigwyddodd dim neillduol mewn perthynas â'r achos Cymreig yn Nghynadledd 1827, yr hon a gynhaliwyd yn Manchester. Bu cynydd o 134 yn rhif yr aelodau.

Cynhaliwyd y Cyfarfod Talaethol Cymreig yn Dinbych, Mehefin 16eg, 1828, a'r dyddiau canlynol. Y Cadeirydd oedd y Parch. John Davies. Yr oedd y Parch. J. Stephens, Llywydd y Gynhadledd, hefyd, yn bresenol. Ychwanegwyd dros ddau gant at rif yr aelodau yn ystod y flwyddyn, heblaw y canoedd oedd ar brawf. Difynwn a ganlyn o adroddiad y Cyfarfod hwnw—"Adeiladwyd amrai Gapelydd, a helaethwyd eraill; mae lluaws eto i gael eu hadeiladu a'u helaethu eleni. Y mae y cynulleidfaoedd yn lluosogi, a'r Ysgol Sabbothol yn flodeuog, ac y mae amryw Weinidogion newyddion yn cael eu galw allan i'r gwaith." Nid oes air o grybwylliad yn yr adroddiad gyd a golwg ar raniad y Dalaeth.

Cyfarfu y Gynhadledd y flwyddyn hon (1828) yn Llundain—y Parch. J. Bunting, M.A., yn Llywydd am yr ail waith. Yr oedd hon yn Gynhadledd bwysig yn hanes Wesleyaeth Gymreig, am mai ynddi hi y rhanwyd y Dalaeth Gymreig yn ddwy. Yr oedd yr holl Gylchdeithiau Cymreig yn y Dywysogaeth er y flwyddyn 1817 yn un Dalaeth, ac yn cael ei hadnabod wrth yr enw Yr Ail Dalaeth Gymreig." Nid oedd dim ond Saesneg yn cael ei bregethu yn Y Dalaeth Gymreig Gyntaf," a dim ond Cymraeg yn yr Ail. Fodd bynag, fel y nodwyd, trefnodd y Gynhadledd hon y Cylchdeithiau Cymreig yn ddwy Dalaeth, a galwyd y naill "Yr Ail Dalaeth Ddeheuol" a'r llall Y Dalaeth Ogleddol." Yr oedd ar y pryd 16 o Gylchdeithiau Cymreig yn y Dywysogaeth, a rhanwyd hwy yn gyfartal trwy roddi wyth i wneyd i fyny y naill Dalaeth a'r llall. Ceir golwg ar y rhaniad yn Sefydliadau y