Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/102

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gorchwyl mawr hwn. Cafodd tri eu holi yn y cyfarfod hwn gan ein Llywydd, a rhoddasant lawn foddlonrwydd ar y pyngciau mawrion gofynol i wyr ieuainc eu gwybod cyn cael eu cynyg i waith y Weinidogaeth yn ein plith. Ac yr ydym yn taer obeithio gwna y Gymanfa ganiatau i ni eu cymeryd allan, gan fod amryw leoedd pwysig wedi cael eu rhoddi i fyny pryd y lleihawyd nifer y pregethwyr yn Nghymru; ac, yn y cyffredin, nis gallwn ni gymeryd rhagor o leoedd i mewn nag sydd genym yn bresenol."

"Athrawiaeth Croes CRIST yn ei llawn helaethrwydd—Efe a brofodd farwolaeth dros bob dyn sydd yn enill tir yn Nghymru. Yr Athrawiaeth fawr hon, ynghyd â thystiolaeth yr YSBRYD, yn y pregethiad o iachawdwriaeth gyffredinol, lawn, bresenol, a thragywyddol, a wna yn y diwedd attal cenllif Antinomiaeth, gyd â pha un yr oedd y wlad hon wedi ei gorlenwi yn ddychrynllyd."

"Mewn llawer lle cawsom lawer i wneyd gyd a'r Capelydd a adeiladwyd ar ddechreuad y gwaith yn Nghymru, ond y mae rhai o'r rhai gwaethaf ar wellhad; a gellid eto wneyd mwy trwy ymchwiliadau yn y cymydogaethau lle y mae y cyfryw, â help Trysorfa y Capelydd. Y mae genym docynau wedi eu parotoi i gasglu yn wythnosol, misol, chwarterol, neu flynyddol. Yr ydym yn anog y dull hwn yn mhob man y gallwn."

Rhydd y difyniadau hyn o'r Cyfarchiad olwg led glir i ni ar sefylla yr achos ar y pryd. Yn y Gynhadledd a gynhaliwyd yn Liverpool dan lywyddiaeth yr anfarwol Barch. R. Watson, hysbyswyd fod un Gweinidog yn y gwaith Cymreig wedi marw, sef y Parch. Robert Jones, 2il, a bod un arall wedi cael ei attal, sef Joseph Jones, o Ysgrifiog. Ond cadwyd rhif y Gweinidogion i fyny trwy i ddau o'r newydd gael ei galw allan i'r gwaith, sef, yn

1. THOMAS AUBREY, o Nantyglo, Sir Frycheiniog. Yr oedd Mr. Aubrey yn un o ser disgleiriaf y Weinidogaeth a welodd Cymru erioed, ac yr oedd yn ddyn llawn yn mhob cylch. Meddai alluoedd meddyliol o'r dosbarth uchaf. Nid yn fynych y magodd Cymru na'r un wlad arall ddyn o allu amgyffredol mor nodedig gyflym a threiddgar, gallu rhesymiadol mor anarferol o gryf a deifiol, a darfelydd mor gyfartal fyw a beiddgar. Cynwysai ei anerchiadau a'i bregethau esgynebau, sylfaen y rhai fyddent gyfansawdd o ymresymiadau gafaelgar a chryno, a'u huchaf-bwynt yn ffaglu gan areithyddiaeth lawn o dân a goleuni. Yr oedd ei hyawdledd yn ofnadwy ysgubol, ac at y cwbl meddai ar lais ardderchog ac ymddangosiad tywysogaidd. Safodd ar uchelfanau'r maes am yn agos i ddeugain mlynedd, a chyflawnodd waith aruthrol. Yn y flwyddyn 1854 penodwyd ef gan y Gynhadledd yn Gadeirydd Talaeth Gogledd Cymru, ac yn y swydd hono ad-drefnodd sylfeini Trysorfeydd y Genhadaeth Gartrefol â'r Capelydd, a hyny er mantais anrhaethol i'r achos. Er fod genym bregeth- wyr galluog yn Nghymru o'i flaen, eto credwn mae efe a roddodd i'r pwlpud Wesleyaidd safle yn mhlith pwlpudau yr enwadau eraill yn y Dywysogaeth, a safle a gadwyd hyd heddyw. Llanwodd y swydd o Gadeirydd y Dalaeth am un mlynedd ar ddeg, sef o 1854 i 1865, a gwelodd lwydiant mawr ar ei waith. Bu farw yn Rhyl, Tachwedd 15fed, 1867, yn 60 mlwydd oed, ac yn ei 41 flwydd o'i Weinidogaeth.