Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/101

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd wedi dyfod yn ymddiriedolwr (trustee) i amrai o honynt; ac o herwydd hyny, bu gorfod arno dalu llawer o ganoedd o bunau yn eu hachos. A da fu iddo gael chwe' chant neu saith ar ol ei rieni, onidê, y mae yn anhawdd gwybod yn mha le y buasai ei ofid yn dybenu. A rhwng bod ei deulu yn fawr ac yn gostus i'w dwyn i fyny, ac yntau wedi gorfod talu cymaint, yr oedd y naill beth gyd â'r llall wedi ei wasgu i amgylchiadan anghysurus ac isel. Ac yn y cyfyngder yma, nid oedd ganddo ddim i'w wneyd ond dyweyd ei gwyn a'i sefyllfa wrth y Gynhadledd, a chafodd ganiatad i ddyfod i Gymru i gasglu yr arian a dalodd felly, os gallai. Daeth i Gymru ddwy waith ar yr achos hyny; a bu ddiwyd iawn, ac yn pregethu yn fynych, a chasglu o ddrws i ddrws, am wythnosau bob tro yn Ngogledd a Deheudir Cymru; mae yn sicr nad oedd dim yn ddigonol reswm i ŵr o'i fath ef gymeryd y fath waith arno, ond ei gyfyngder, yn achos bod eiddo ei blant wedi eu talu fel hyn ymaith, a dim gobaith i'w cael yn ol heb hyny."

Gwnaeth y Cyfarfod Talaethol y flwyddyn hono un peth neillduol allan o'r ffordd gyffredin, sef anfon Cyfarchiad at y Gynhadledd, wedi ei arwyddo gan y Cadeirydd. Dengys y cyfryw fod y tadau yn fyw i'w gwaith a'u cyfrifoldeb. Buasai yn dda genym allu rhoddi y Cyfarchiad i mewn yn gyflawn, ond prinder gofod a'n lluddia. Ymddangosodd yn yr Eurgrawn am 1826, tudalen 410. Difynwn a ganlyn—

Yn y rhan hon o winllan yr ARGLWYDD, y mae genym achos i fod yn llawen a chymeryd cysur; oblegid y mae genym bob sail ysgrythyrol i gredu fod yr ARGLWYDD o'n plaid. Pan yr ydym yn cymeryd golwg ar ddechreuad y gwaith mawr yn y Dywysogaeth, yn meddwl am yr offerynau parchus a ddefnyddiwyd, rhai o'r cyfryw sydd yn parhau hyd y dydd hwn, wedi ei harianu gan amser, ac yn edrych arnom ni ein hunain ag sydd yn awr yn ymgydio â'r gwaith, hawdd y gallwn gael ein colli mewn syndod, a distaw fawrhau, a dywedyd, Pa beth a wnaeth Duw? Dechreu- asom, bawb o honom o'r braidd, ein pererindod grefyddol, a'n milwriaeth efengylaidd, ar yr un amser; ac er i ni gael gelynion grymus a nerthol i ymwneyd â hwy, eto, er gwaned ydym, er llesged y buom, yr ydym yn dilyn; ac i Dduw y byddo yr holl ogoniant, wedi cael help gan Dduw, yr ydym yn aros hyd y dydd hwn; ac er ein bod mewn llafur yn ehelaeth, trwy bregethu ar y cyfan naw gwaith yn wythnosol, ac weithiau lawer amlach, eto, pan ofynwyd y gofyniad syml a phwysig, 'Pa bregethwyr (o honom) a fuont feirw yn ystod y flwyddyn.' Yr atebiad ydoedd, Neb; a dim ond un yn analluog i gyflawni ei alwad'—Gogoniant i Dduw yn y goruchafion. Mae ein hachos yn cyfodi yn raddol ac yn effeithiol yn y Dywysogaeth. Yn mhob tref o'r bron y mae eisiau lleoedd helaethach i addoli."

"Mae ein Hysgolion Sabbothol yn parhau yn llwyddianus, yn y rhai y mac gerllaw 15000 o blant, pobl, a dysgawdwyr. Yr ydym yn canfod fod ym- arferiadau egwyddorol yn dra defnyddiol, nid yn unig wrth hyfforddi ein miloedd yn y ffordd y dylent rodio, ond, hefyd, wrth bregethu i eraill wirioneddau mawrion ein crefydd sanctaidd."

"Mae ein pethau tymhorol ar wellhad o flwyddyn i flwyddyn, ac y mae Duw yn cyfodi dynion ieuainc, o gymwysderau defnyddiol, er ymledaenu y