Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/100

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

1. JOSEPH JONES, o Ysgeifiog, Sir Fflint. Bu raid iddo ef adael y gwaith yr un flwyddyn, ac mewn canlyniad aeth drosodd i Eglwys Rhufain, ac yn mhen amser ordeiniwyd ef yn offeiriad ynddi.

2. JOHN L. RICHARDS, o Lanfair isaf, ger Harlech, Sir Feirionydd. Dychwelwyd ef at grefydd yn ieuanc, a dechreuodd bregethu cyn ei fod yn ddeunaw mlwydd oed. Bwriadai ei dad ei anfon i Rydychain i'w barotoi ar gyfer y Weinidogaeth yn yr Eglwys Wladol; ond gwell oedd ganddo oddef adfyd gyd â phobl ei ddewisiad, na chael mwynhau bywoliaeth frâs dros amser. Yr oedd yn wylaidd a mwyn ei ysbryd, yn meddu synwyr naturiol cryf, ac yn bregethwr rhagorol. Byddai ei bregethau wedi eu myfyrio a'u trefnu yn dda, a thraddodai hwynt gyd â difrifoldeb a gwres. Etholwyd ef yn Ysgrifenydd Cyllidol y Dalaeth Ogleddol yn 1833, a pharhaodd yn y swydd hono am dair a'r hugain o flynyddoedd. Mor bell ag y gallwn gael allan efe fu hwyaf yn yr un swydd o bawb a fuont yn swyddogion yn y Dalaeth. A diameu mai efe a ddewisasid yn Gadeirydd ar ymneillduad y Parch. Edward Anwyl oni buasai iddo wrthod yr anrhydedd yn benderfynol. Datganodd ychydig ddyddiau cyn ei farwolaeth ei hyder sicr y byddai "yn wastadol gyd â'r Arglwydd." Bu farw yn Llansantffraid-yn-Mechain, Mawrth 18fed, 1865, yn 65 mlwydd oed, ac yn y 40fed o'i Weinidogaeth.

Cynhaliwyd y Cyfarfod Talaethol 1826 yn Llanidloes—y Parch. W. Davies, 1af, yn Gadeirydd. Hwn oedd y Cyfarfod Talaethol olaf iddo ef fod yn yn y gadair. Bu tymor ei swyddogaeth yn un tra llwyddianus. Cyfododd rhif yr aelodau o 5410 i 6744, sef cynydd o 1334. Fel hyn canfyddwn fod Methodistiaeth Wesleyaidd Gymreig erbyn yn awr wedi mwy nag enill y tir a gollodd yn y blynyddoedd, o 1811 hyd 1817. Nid oes lawer i'w ddywedyd am y blynyddoedd hyn amgen nag i waith mawr gael ei gyflawni gan y tadau, mewn adfeddiannu tiroedd a gollwyd, adeiladu Capelau, a chasglu tuag at glirio eu dyledion.

Yr oedd yn bresenol yn Nghyfarfod Talaethol y flwyddyn hon, heblaw Gweinidogion y Dalaeth a Chynrychiolwyr y Gynhadledd, y Parch. Edward Jones, gynt o Bathafarn. Diameu mai un rheswm dros ei bresenoldeb ef oedd yr helyntion blin y dygwyd ef iddynt mewn cysylltiad â dyledion Gapelau ag yr oedd ef yn ymddiriedolwr iddynt. Teifl y difyniad canlynol o'i gofiant, gan y Parch. William Evans, oleuni ar hyn—

"Er fod Mr. Jones wedi ymadael a Chymru, ni chafodd ymadael a'i rwymedigaethau (responsibilities) ag oedd ef wedi myned oddi tanynt tra yn Nghymru, a hyny yn benaf yn achos Capelydd a fu yn foddion i'w hadeiladu mewn amryw fanau, yn ei gariad a'i sel am fyned a'r achos da yn ei flaen. Parodd y rhai hyn iddo ofid mawr am flynyddau, os nad ar hyd ei oes. Heblaw y boen, y drafferth, a thraul a gafodd tra yn eu hadeiladu, yr