Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/99

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yn Nghynadledd 1822 gorfu i'r Parch. David Williams ofyn am ganiatâd i fyned yn Uwchrif o herwydd gwendid ei iechyd. Dyma y flwyddyn, hefyd, y peidiodd Mr. Owen Thomas a theithio, trwy roddi i fyny y Weinidogaeth ac ymsefydlu yn Nghaergybi. Ond cadwyd rhif y Gweinidogion yn 29 fel y flwyddyn o'r blaen, trwy i'r Parch. John Williams, af, ail-ymaflyd yn ei waith, ar ol bod yn Uwchrif am flwyddyn, ac, hefyd, trwy i un o'r newydd gael ei alw allan i waith y Weinidogaeth. Ni alwyd neb allan er y flwyddyn 1813 o'r blaen, a hwn yw y cyfnod mwyaf i hyny ddigwydd yn hanes yr enwad o'r dechreu hyd yn awr.

Yr un a alwyd allan oedd

DAVID MORGAN, o Langadog, Sir Gaerfyrddin. Yr oedd yn bregethwr cymeradwy. Tynai gynulleidfaoedd mwy na chyffredin, a byddai y gair o'i enau "fel gwlaw ar gnu gwlân, ac fel cawodydd yn dyfrhau y ddaear." Meddai lais cwmpasog a da, "a chafodd ei lafur ei arddelwi yn helaeth, a'i fendithio yn fawr gan Dduw er dychwelyd pechaduriaid, ac adeiladaeth credinwyr." Bu farw yn Mhontfaen, Morganwg, Rhagfyr 3, 1848, yn 55 mlwydd oed, ar ol bod yn y Weinidog- aeth am 26 o flynyddoedd.

Yn y flwyddyn 1823, bu cynydd sylweddol iawn yn rhif yr aelodau. Yr oedd eu rhif y flwyddyn hon yn 6136- cynydd o 504. Safai rhif y Cylchdeithiau yn 13 fel y flwyddyn cynt, ond bu un o gynydd yn rhif y Gweinidogion trwy i'r Parch. David Williams ail-ymaflyd yn ei waith. Naw ar hugain fu rhif y Gweinidogion am y tair blynedd diweddaf, ond ant ar gynydd bellach o flwyddyn i flwyddyn.

Nid oes ond ychydig i'w gofnodi am y flwyddyn 1824. Bu cynydd o 224 yn rhif yr aelodau, cynydd o ddwy yn rhif y Cylchdeithiau, sef Llanidloes a Pwllheli, a chynydd o un yn rhif y Gweinidogion trwy i'r Parch. David Jones cyntaf, ar ol bod yn Uwchrif am bedair blynedd, gael adferiad iechyd fel ag i'w alluogi i ail-ymaflyd yn ei waith. Erbyn hyn yr oedd y gwaith yn sirioli ac yn dechreu llwyddo yn ei holl adranau.

Llwyddiant, hefyd, ydyw hanes y flwyddyn 1825. Bu cynydd o dros 150 yn rhif yr aelodau, ac o un yn rhif y Gweinidogion. Y flwyddyn hon enciliodd Robert Jones, 1af, o Llanerchymedd, o'r gwaith, ond galwyd dau allan o'r newydd, sef yn