Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/98

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

. . . Nid oes â fynom ni a dilyn ar ol yr Ymranwyr. Adeiladasant gapel ar y cyntaf yn Brick Street, allan o James' Street. Yn mhen amser aeth y gymydogaeth yn isel, ac adeiladwyd capel yn Gill Street. Yno y buont yn addoli tra y parhaodd rhyw nifer i dd'od ynghyd. Ond y maent wedi llwyr ddiflanu o'r golwg er ys blynyddoedd. Dylem synio y goreu am bawb, a phriodoli yr amcanion goreu i rai cyfeiliornus mewn barn a gweithrediadau. Ond dylid cofio mai pechod ofnadwy ydyw aflonyddu heddwch Israel Duw, a gosod rhwystrau ar ffordd ymdaith y gwersyll yn mlaen. Bron na ddywedwn mai gwell cael bedd pob rhyw gymeriad na bedd Corah, Dathan, ac Abiram."

Cyfarfyddodd Cynhadledd 1819 yn Bristol, ac yr oedd rhif yr aelodau perthynol i'r Dalaeth Gymreig wedi codi i 5170, cynydd ar y flwyddyn o 407. Diameu i'r llwydd- iant hwn fod yn destyn llawenydd mawr i'r Parch. D. Rogers, yn ogystal ag i'r gwŷr galluog a ffyddlon a gyd-lafuriant âg ef. Ond gwnaeth y Gynhadledd ddifrod ychwanegol ar yr achos Cymreig trwy gymeryd i'r gwaith Seisnig y Parch. D. Rogers, a hyny yn groes iawn i'w deimladau ef ei hun, ac er siomedigaeth i'r Wesleyaid Cymreig. Cymerwyd ymaith, hefyd, dri eraill i'r gwaith Seisnig y flwyddyn hon, sef y Parchn. Owen Rees, William Davies, yr 2il, ac Edward Jones, y 4ydd, ac felly rhif y Gweinidogion yn y gwaith Cymreig bedwar yn llai. Yn y Gynhadledd hon penodwyd y Parch. John Williams, 1af, yn Gadeirydd y Dalaeth, a pharhaodd yn y swydd am ddwy flynedd. Galwyd ef i waith y Weinidogaeth yn 1805. Deallai athrawiaethau crefydd yn dda, a meddai safle barchus fel duwinydd ac awdwr. Yn ystod dwy flynedd ei swyddogaeth ef parhaodd y gwaith da i lwyddo, fel y prawf y ffaith, fod rhif yr aelodau yn 1821 yn 5629, cynydd yn ystod y ddwy flynedd o 459. Yn y flwyddyn 1820 aeth y Parch. David Jones, 1af, yn Uwchrif, ac felly bu lleihad o un yn rhif y Gweinidogion. Ffurfiwyd tair Cylchdaith newydd, sef Aberhonddu, Llandeilo, a Llanrwst.

Yn y flwyddyn 1821, penodwyd y Parch. W. Davies, 1af, yn Gadeirydd y Dalaeth, ac efe a barhaodd yn y swydd am bum' mlynedd yn olynol. Aeth y Parch. J. Williams, 1af, yn Uwchrif y flwyddyn hon, ond trwy i'r Parch. W. Davies, 1af, ddychwelyd i'r gwaith Cymreig, cadwyd rhif y Gweinidogion yn 29 fel y flwyddyn o'r blaen. Bu ychydig o gynydd yn ystod y flwyddyn hon yn rhif yr aelodau.