Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/97

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD VIII.

Gwawr Amseroedd Gwell (O 1817 hyd 1828).

AR ol trai mawr y blynyddoedd diweddaf dechreuodd y llanw gyfodi drachefn. Pan gyfarfyddodd Cynhadledd 1818 yn Leeds, yr oedd rhif aelodau Methodistiaeth Wesleyaidd Gymreig yn 4763, yr hyn oedd yn gynydd ar y flwyddyn o'r blaen o 109—cynydd bychan mae yn wir, ond er hyny parodd sirioldeb mawr i'r rhai a deimlent ddyddordeb yn llwyddiant yr achos Cymreig. Cadeirydd y Dalaeth am y flwyddyn hon, hefyd, oedd y Parch. David Rogers. Bu farw y Parch. Robert Roberts a aeth yn Uwchrif y flwyddyn o'r blaen, ac enciliodd Mr. Maurice Jones o'r weinidogaeth, felly daeth rhif y gweinidogion i lawr i 34, sef un yn llai na'r flwyddyn o'r blaen.

Yn ystod y chwarter a derfynai Mawrth, 1818, cymerodd ymraniad le mewn cysylltiad a'r achos yn Liverpool, yr hwn a elwid "Ymraniad y Wesla bach." Gyd â golwg ar yr ymraniad hwnw, gosodwn gerbron dystiolaeth y Parch. Lot Hughes yn yr Eurgrawn am 1872, tudalen 342:—

Mynych cyfeirir at y cyfnod yma (1817 a 1818) fel adeg bwysig iawn i'r achos, gan mai dyma yr adeg y cymerodd yr ymraniad hwnw le, a elwir yn "Ymraniad y Wesla bach." Parodd hyn i ni fanylu cryn lawer ar yr ystadegau am yr amser; ac nid ydym yn gwybod i gymaint o havoc gael ei wneyd ac a ddysgrifir weithiau." (Yma ceir ystadegau gan Mr. Hughes yn dangos i 53 o aelodau gael eu colli yn Chwarter Medi, 1818, ond er hyny fod y cyfraniadau at y Weinidogaeth wedi codi.) Efallai mai prif, os nad unig achos yr ymraniad, oedd cynhaliad y Weinidogaeth. Gwir fod hyny wedi cael ei guddio o'r golwg â phroffes o ofal am wragedd gweddwon, ac â honiad o dra-arglwyddiaeth y gweinidogion. Ond awydd i lymhau cefn, ysgafnhau llogell, a thyneuo bwrdd y gweinidog oedd wrth wraidd yr ymraniad. Niwaid mwyaf y cyffro oedd aflonyddu y rhai cywir a didwyll, ond sydyn, byrbwyll, a chwyrn. Collwyd blaenoriaid felly am dymor.