Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/96

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cynorthwy a estynid o'r Drysorfa Genhadol i gario yn. mlaen y gwaith yn Nghymru. Paham yr ymddygodd y Gynhadledd fel hyn tuag at yr achos Cymreig sydd i ni i fesur yn ddirgelwch, tra yr ymddygodd mor wahanol tuag at yr achos yn yr Iwerddon. Ai onid oedd gwell maes o lawer i weithio yn Nghymru nag yn yr Ynys Werdd? Ond parhawyd i gynorthwyo y Gwyddel o'r Drysorfa Gen- hadol, tra y gadawyd i'r Cymro i fesur pell i ymdaraw drosto ei hun cystal ag y gallasai. Nid oedd yr achos Cymreig eto ond ieuanc; ac ystyried ei amgylchiadau gweithiai yn rhagorol, yn enwedig mewn adeiladu Capelau ac yn y blaen. Ac yr oedd hyn yn llyncu i fyny holl adnoddau ein pobl ar y pryd. Bu i oerfelgarwch ym- ddygiad y Gynhadledd yn y blynyddoedd 1815 a 1816, yn sicr gyfranu yn effeithiol at achosion lleihad ac aflwyddiant y gwaith yn Nghymru yn y blynyddoedd hyn.

4. Rhaid cymeryd, hefyd, i ystyriaeth mai Crefyddwyr ieuainc oedd y rhan luosocaf o'n haelodau ar derfyn y flwyddyn 1811, ac felly nid oedd yn eu plith ond nifer gymharol fechan o ddynion profiadol i fod yn arweinwyr a blaenoriaid. Bu cynydd yr achos yn y blynyddoedd cyntaf yn gyflymach na chynydd yr adnoddau magwriaethol, ac effeithiau hyny i ryw fesur oedd yr adweithiad a gymerodd le yn y blynyddoedd o 1811 hyd 1817.

5. Ond nis gallwn fyned heibio heb sylwi ar un ffaith arall, a effeithiodd yn anfanteisiol ar lwyddiant yr achos yn y cyfnod hwn, sef, gwaith y Gynhadledd yn cyfuno neu yn cymysgu yr achosion Cymreig â Seisnig. Bu y blynyddoedd hyn yn flynyddoedd cymysgiad (amalgamation) yr achosion Cymreig â Seisnig yn y Deheudir. Bu yr anghenfil corniog a chynffoniog hwn yn y blynyddoedd hyn, fel mewn amryw engreifftiau ar ol hyny, megys yn achos Pontfaen a Chaerfyrddin, yn bwrw iâ marwolaeth a barug angeuol ar yr achosion Cymreig gan geisio eu gwywo o'r tir. Ac mewn blynyddoedd diweddarach bu yn dangos ei ddanedd ysglyfaethus, a'r hyn y rhyfeddem ato oedd, fod dynion a broffesent awydd angherddol am lwyddiant yr achos Cymreig wedi eu hudo i fod yn fraich iddo.