Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/95

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Naturiol gofyn-Beth fu yr achos neu yr achosion o'r aflwyddiant a'r lleihad a gymerodd le yn y blynyddoedd hyn? Tybiwn y gellir nodi amryw achosion i'r cyfryw. Yn

1. Yr oedd yr erlidigaeth a fu ar Wesleyaeth yn y blynyddoedd cyntaf, ac a barhaodd am amser maith, yn sicr o fod yn un achos o'r aflwyddiant. Ymosodid arni yn ddiarbed trwy y wasg, ac o bwlpudau y tri enwad oeddynt yn barod wedi gwreiddio yn Nghymru. Gwnaeth y Parch. Thomas Jones, o Ddinbych, ei oreu trwy y wasg i'w llesteirio, a phob peth yn ei allu o'r pwlpud i greu dychryn yn nghalonau y bobl tuag at Arminiaeth neu Wesleyaeth. Ac felly, hefyd, y gwnaeth y Parch. Christmas Evans. Gosodai ei saethau gwenwynig ar ei fwa, ac anelai hwynt âg un llygad yn nghyfeiriad Wesleyaeth, gan eu gollwng oddiar y llinyn gyd â'i holl rym i'w chlwyfo a'i lladd. Nid ydym yn ameu nad oedd yr enwogion hyn yn ddigon cydwybodol, ac yn tybio eu bod yn cyflawni gwasanaeth i Dduw, ac iddynt gyflawni y gwaith yn eu hanwybodaeth. Diameu i ymosodiadau hyfion y gwŷr nerthol hyn ac eraill ar Wesleyaeth yn ei babandod effeithio i ryw fesur er attal ei chynydd, ac i ddwyn ffrwyth gweledig trwy leihau ei dylanwad.

2. Achos arall o'r lleihad ydoedd ansefydlogrwydd crefyddol llawer o'r rhai a ddalient aelodaeth eglwysig yn y Gyfundeb. Nid oedd iddynt wreiddyn, ond dros amser. Daethant i mewn i ganlyn y llanw mawr yn mlynyddoedd llwyddiant; ond nid oeddynt yn meddu ar wroldeb na gonestrwydd, i fod yn ffyddlon i anhawsterau a chyfrifoldeb y llwyddiant hwnw. Yr oedd yn mhlith ein haelodau cyntaf lawer a deimlant ymlyniad wrth yr Eglwys Wladol, a phan welodd y cyfryw fod baich trwm o gyfrifoldeb yn dyfod i orphwys ar yr enwad yn nglyn a'r nifer luosog o Gapelau a adeiladwyd; yn nydd profedigaeth ciliasant; a phrofasant hwy ac eraill, y disgwylid yn rhesymol iddynt gyd-ddwyn y baich, yn anffyddlon i'w rhwymedigaethau.

3. Diameu i farwolaeth Dr. Coke effeithio, hefyd, i ryw fesur i ddigaloni y rhai a lafurient yn y gwaith Cymreig, ac yn enwedig waith y Gynhadledd yn tynu i lawr swm y