Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/94

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

CENHADAETH CYMREIG YN LLOEGR.

Llundain—Thomas Thomas.
Liverpool—Edward Jones, I; Edward Jones, 2, Uwchrif.
Manchester David Williams.

Fel y nodwyd, nid oedd yn y Dywysogaeth y flwyddyn hon ond un—ar—ddeg o Gylchdeithiau Cymreig, sef wyth yn ffurfio "Talaeth Rhuthyn," a thair, sef, Llandeilo, Aberteifi, ac Aberystwyth, yn perthyn i "Dalaeth Caerfyrddin."

Yn y Gynhadledd a gynhaliwyd yn Sheffield yn y flwyddyn 1817, crynhowyd unwaith eto yr holl Cylchdeithiau Cymreig i un Dalaeth, dan yr enw "Yr Ail Dalaeth Gymreig." Cynwysai ddeuddeg o Gylchdeithiau, sef (1) Merthyr ac Aberhonddu; (2) Caerdydd; (3) Caerfyrddin a Llandeilo; (4) Aberteifi; (5) Aberystwyth; (6) Rhuthyn a Llangollen; (7) Dinbych a Llanrwst; (8) Treffynnon; (9) Llanfyllin; (10) Machynlleth a Dolgellau; (11) Caernarfon a Pwllheli; (12) Caergybi a Beaumaris. Penodwyd y Parch. David Rogers yn gadeirydd y Dalaeth. Y flwyddyn hon cymerwyd y Parchn. E. Jones (Bathafarn), John Jones (Corwen), ac Evan Parry (Helygain), i'r gwaith Seisnig, a gorfu ar y Parch. Robert Roberts ofyn caniatad i fyned yn uwchrif am fod ei iechyd wedi tori i lawr. Yr oedd hyn yn lleihad. o bedwar yn rhif y Gweinidogion. Nis gellir dywedyd yn sicr faint oedd y lleihad yn rhif yr aelodau y flwyddyn derfynai Mawrth, 1817, am nad oes genym gyfrif o'r aelodau Cymreig yn Nghylchdeithiau Seisnig y Deheudir. Fel y gwelir, bu lleihad o ddeg yn rhif y Gweinidogion mewn dwy flynedd, ac fel hyn y dywedodd y diweddar Barch. W. Davies, D.D.—"Canlyniad y cwbl oedd, cyfyngder mawr ar bregethwyr a'u teuluoedd; digalondid fel effaith hyny; cynulleidfaoedd a societies yma a thraw yn dihoeni o eisieu gofal; lleoedd pregethu yn cael eu rhoddi i fyny; a'r hyn y buwyd un ar bymtheg o flynyddoedd yn llafurio i'w godi i fyny, mewn perygl mawr o syrthio yn adfail drachefn. Do, Do, rhoddwyd archoll y pryd hwnw i Wesleyaeth Gymreig, sydd wedi gadael ei ol arni hyd heddyw."