Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/93

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

digymysg; unwyd y lleill â Chylchdeithiau Seisnig. Yn ddiau gosodwyd y ddinas yn bentwr, a'r dref gadarn yn garnedd.' Tynwyd rhif y Gweinidogion i lawr o 45 i 39. Cymerwyd y Parchn. John Bryan, John Rogers, Hugh Carter ac Owen Davies i'r gwaith Seisnig, a rhoddodd y Parchn. William Jones a Griffith Owen y weinidogaeth fyny, am fod yn well ganddynt wasanaethu eu cenedl yn ol y cnawd na myned at y Saeson estronol. Efallai yr hoffai y darllenydd weled pa fodd y safai sefydliadau y Gweinidogion Cymreig ar ol y chwaliad mawr hwn yn y flwyddyn 1816.

TALAETH ABERTAWE (SEISNIG)

Abertawe—Thomas Ashton, Owen Recs, John Keeling.
Merthyr— William Woodall, Morgan Griffith, Owen Thomas.
Aberhonddu—George Birley, Evan Parry, William Davies,
Mynwy—William Brocklehurst, William Edwards.
Caerdydd—James Dixon, Griffith Hughes, David Jones, 1af.
Caesnewydd—Simon Day, Joseph Raynor.

SIMON DAY, Cadeirydd.

TALAETH CAERFYRDDIN (SEISNIG).

Caerfyrddin—Thomas Warren, Hugh Hughes, John Williams, Joseph Cole.
Llandeilo—John Jones, hynaf, Robert Jones, hynaf.
Aberteifi—John Davies, Lot Hughes.
Haverford West—William Hayman, John Overton.
Penfro—Thomas Twiddy, John Rogers.
Aberystwyth—Edward Jones, 3ydd, Evan Edwards.

THOMAS WARREN, Cadeirydd y Dalaeth.

TALAETH RHUTHYN (CYMREIG),

Rhuthyn a Dinbych—William Evans, Maurice Jones.
Treffynnon—Samuel Davies, Robert Owen.
Llangollen—William Batten, John Jones, ieu.
Llanfyllin—Lewis Jones, Humphrey Jones.
Machynlleth a Dolgellau—R. Humphreys, Evan Hughes, Owen Jones, ieu.
Caernarfon a Pwllheli—Robert Roberts, David Jones, ieu.; R. Jones, ieu.
Caergybi a Beaumaris——D. Rogers, John Williams, William Hughes.
Llanrwst—David Evans, Richard Bonner.

DAVID ROGERS Cadeirydd.