Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/92

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

warth bythol i'w coffawdwriaeth. Cauasant y capel yn ei erbyn heb reswm o gwbl dros hyny.

Yn Nghynadledd y flwyddyn 1815, gynhaliwyd yn Manchester, cyfnewidwyd enw y Dalaeth Gymreig, a galwyd hi "Talaeth Gogledd Cymru" fel cynt. Saif rhif y Cylchdeithiau fel y flwyddyn o'r blaen. Collir enw TYDDEWI o'r "Cofnodau," ond ceir enw PONTFAEN yn lle hyny. Y flwyddyn hon aeth Edward Jones, 2il, yn uwchrif, ac aeth William Davies, 1af yn genhadwr i Sierra Leone. Ond er colli dau nid oedd ond un o leihad yn rhif y Gweinidogion, oblegid dychwelodd y Parch. David Rogers i'r gwaith Cymreig, er llawenydd mawr i'w frodyr yn Nghymru.

Arweinir ni yn awr at Gynhadledd 1816, yr hon a gynhaliwyd yn Llundain, dan lywyddiaeth y Parch. R. Reece. Gwnaeth y Gynhadledd hon ddinystr ofnadwy ar yr achos Cymreig. Chwalwyd y Cylchdeithiau, attaliwyd y cynorthwy o'r Drysorfa Genhadol-at ei gynal, cymerwyd rhai o'r pregethwyr mwyaf poblogaidd i'r gwaith Seisnig, a gorfu ar eraill roddi y weinidogaeth i fynu. Am y flwyddyn hon dywed Dr. William Davies fel y canlyn"Gwnaed rhyw chwaliad dinystrio! iawn ar y gwaith Cymreig y flwyddyn hon. Nid oedd ond Cylchdeithiau y Gogledd, a thair eraill yn y Deheudir yn rhai Cymreig di-gymysg o'r cwbl a fu unwaith! Unwyd y lleill gyd a'r Cylchdeithiau Seisnig. A mwy na hyny, cyfyngwyd llawer ar y rhai a adawyd. Gwnaed Dolgellau a Machynlleth yn un Gylchdaith, Caernarfon a Pwllheli yn un, a Chaergybi a Beaumaris hefyd yn un. Fel hyn dirlethwyd y gwaith yn y Gogledd i gylch bychan-wyth o Gylchdeithiau. Ffurfiwyd y rhai hyn yn Dalaeth, dan yr enw "TALAETH RHUTHYN," a gosodwyd Mr. David Rogers yn gadeirydd iddi! Blwyddyn ddinystriol i Wesleyaeth yn Nghymru oedd hon. Bu y Dr. Coke farw yn 1814; ac O! mor fuan a chwerw y cafodd Wesleyaid Cymru deimlo hyny. Hyd yr amser yma derbyniai yr achos Cymreig fesur mawr o'i gynhaliaeth o'r Casgliad Cenhadol, ond yn awr taflwyd ef arno ei hun. Disgwylid i'r bachgen 16eg oed ei gadw ei hun bellach. Och, o'r diwrnod! Och, yn wir! Nid oedd ond hyn (sef 1:eg) o Gylchdeithiau yn rhai Cymreig